Hanes Eglwys
Sant Mihangel
Y Fali
© Ardal Genhadaeth Bro Cwyfan, 2018
Eglwys Sant Mihangel, Y Fali
Hanes byr o'r eglwys wedi ei
chrynhoi gan David M E Lindsay o
ddeunydd gwreiddiol gan Miss Mary
Lloyd Jones ac aelodau'r
gynulleidfa.
Enw cywir yr eglwys yw "Eglwys
Sant Mihangel a'r Holl Angylion".
Y plwyf gwreiddiol oedd Llanynghenedl,
ac yr oedd gwasanaethau prynhawn yn
cael eu cynnal yn Eglwys y Plwyf
Llanynghenedl a oedd 1½ milltir yn nes
at y fam Eglwys yn Llanfachraeth, ble'r
oedd y Rheithor yn byw. Wedi adeiladu'r
rheilffordd sy'n pasio drwy y Fali,
cynyddodd y boblogaeth yn agos ar yr
Orsaf Rheilffordd, ac yr oedd yn bobl
eglwysig yn cynnal gwasanaethau
prynhawn yn 'Ystafell y Bwrdd', sef
Ystafell yr Ynadon tu cefn i'r gwesty am
tua 15 mlynedd. Am gyfnod, clerigwyr
Caergybi oedd yn cymryd y
gwasanaethau, hyd nes i apwyntiad gael
ei wneud ar gyfer y trefniant dros dro
hwn yn y Fali.
Erbyn 1885, roedd y lle yn Ystafell y Bwrdd wedi mynd yn rhy fychan, ac yn y cyd-destun hwn sefydlwyd pwyllgor i ystyried
adeiladu eglwys yn y Fali. Syr Richard Buckeley Bt. a gyfrannodd y tir ar gyfer yr eglwys a'r rheithordy. Sefydlwyd rhestr
tanysgrifiad a gafodd gefnogaeth dda, a phan y cafwyd digon o gyfalaf rhoddwyd y contract adeiladu i Mr W Williams,
Tanrefail, Caergybi am gost amcangyfrifedig o £1300. Agorodd yr eglwys ar yr 8fed Ebrill 1888 efo gwasanaeth cymun am
9.30a.m. a gynhaliwyd gan Esgob Bangor. Am 11.00 a.m., cafwyd gwasanaeth y boreol weddi, a methodd llawer â chael i
mewn i'r eglwys, oherwydd y tyrfaoedd. Dilynodd gwasanaeth Cyflwyno a Chysegru'r Fynwent, a pharhaodd gwasanaethau
am y dydd efo'r Litani am 3.00 p.m. a'r Hwyrol Weddi am 6.00 p.m. Cychwynnodd y gwasanaethau llawn y Sul canlynol.
Adeiladwyd y rheithordy cyfagos cyn gynted ag yr oedd yr eglwys wedi ei chwblhau.
Man cyfarfod Neuadd yr Eglwys
Roedd yn anodd cynnal cyfarfodydd Eglwys heb ystafell i gyfarfod ynddi, ond yn 1935 rhoddodd Richard Gardner ganiatâd i
ddefnyddio adeilad dros y ffordd i'r Eglwys. Erbyn 1967, roedd yr adeilad hwn wedi mynd yn adfeilion, a bu rhaid ei dynnu i
lawr. Yna penderfynodd y Rheithor ar y pryd, sef y Parch Trevor Jones, ynghyd â grwp brwdfrydig o weithwyr, gynnal ffair bob
blwyddyn i godi arian ar gyfer Ystafell Eglwys newydd. Rhoddwyd y tir gan Mrs Jean Owen, merch hynaf Mr Richard
Gardner, ac agorwyd y Neuadd, yn Lôn Gardner Pendyffryn, y Fali ar 27ain Hydref 1977. Roedd llwybr i gysylltu'r Rheithordy
a'r Neuadd. Nid yw hwn yn cael ei ddefnyddio bellach. Mae'r neuadd newydd yn cael llawer o ddefnydd gan y Cylch Meithrin,
Grwp Chwist, a'r Rainbows, yn ogystal â'r swyddogaethau eglwysig cyffredin fel bo'r angen.
Disgrifiad yr Eglwys
Mae dull adeilad yr Eglwys yn un croesffurf, ac wedi ei adeiladu ar fodel o Eglwys
Llanbedrgoch. Mae'r ffenestri i gyd o wydr lliw, mae llwybr y Gangell o farmor Ynys Môn, a'r
Fedyddfaen o alabastr. Mae'r Credfwrdd Mosaïg mewn cilfach ar ochr ddeheuol y gangell, ac
fel canolbwynt mae ynddo garreg lathredig a roddwyd gan yr Arglwydd Stanley o Benrhos.
Mae'r Ffenestr Ddwyreiniol, tu ôl i'r allor, yn cynnwys llun o Sant Mihangel, y mae'r eglwys
wedi ei enwi ar ei ôl. Sylwer fod y mwyafrif o'r ffenestri lliw, heblaw un yr allor, o wahanol
arlliwiau melyngoch a brown (gweler y llun ar y dde), gan fod yr Arglwydd Stanley o Alderney
wedi troi at y ffydd Foslemaidd. Er gwaethaf hyn, ef oedd fwyaf blaenllaw mewn sefydlu a
dodrefnu'r Eglwys. Rhoddwyd y ffenestr Ogleddol yn y darn croes gan Miss Adeane o
Benrhos er cof am ei ewythr, ac mae ynddi Arfbais Frenhinol (gweler y llun isod) a Choron
Victoria, a oedd newydd ddathlu 50 mlynedd yn frenhines. Ar ochr Ddeheuol y darn croes,
gweler ffenestr efo llun St Cecelia, Nawddsant Cerddoriaeth. Ar ochr ddeheuol y gangell,
gweler llun o 'Oleuni'r Byd' - rhodd gan deulu Gardner er cof am eu rhieni.
Mae'r pulpud o dderw a chanddo bum panel, gyda cherfiadau o'r Brenin Dafydd yn chwarae
telyn, St Mihangel yn dal gwaywffon, Moses efo'r Deg Gorchymyn, a chroes ar y ddau banel
pen. Mae'r seddau i gyd o dderw yn ogystal. Mae sawl baner i'w gweld yno: hanes cryno o
Fali gan y grwp Teuluoedd Ifanc; un gan y Cubs a'r Guides, ac mae gan Undeb y Mamau a
Pathfinders hefyd faneri. Gwnaethpwyd yr holl glustogau pen-glin gan aelodau'r gynulleidfa.
Yn 1997, adeiladwyd y neuadd gyfarfod bresennol, trwy roddion gan wahanol elusennau ac aelodau. Mae ynddo doiled i'r
anabl, a chegin fechan sy'n ddefnyddiol i wneud te neu goffi.
Ffenestr felyngoch a brown
Ardal Genhadaeth Bro Cwyfan
Gwasanaethau
11:15 am
Boreol Weddi (Saesneg)
Sul 1af
11:15 am
Cymun Bendigaid (Saesneg)
2ail, 3ydd a 4ydd Sul
10:00 am
Cymun Bendigaid (Saesneg)
Bob dydd Iau yng Nghanolfan yr Eglwys gydag astudiaeth o’r Beibl i ddilyn.